Mike Hedges AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel 
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA
 
  10 Hydref 2018

 

Annwyl Mike

 

Deiseb P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

 

Fel y gwyddoch, trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb a ganlyn, a gyflwynwyd gan Ban Plastic Straws Wales, am y tro cyntaf ar 25 Medi:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i wahardd pob eitem blastig untro yng Nghymru. Amcangyfrifir bod y DU ac UDA yn unig yn taflu tua 550 miliwn o wellt plastig bob dydd. Er bod pob un ond yn cael ei ddefnyddio am gyfartaledd o 20 munud yn unig, maent yn cymryd canrifoedd i bydru. Yn ystod ymgyrch lanhau gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, ar gyfartaledd, canfu 138 o ddarnau o wastraff yn gysylltiedig â bwyd a diod ar bob 100m o draethau’r Deyrnas Unedig.

 

Mae angen atal hyn ac mae angen i’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.

 

Yn y cyfarfod, cytunodd yr Aelodau y dylwn ysgrifennu atoch i rannu manylion y ddeiseb hon â'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng nghyd-destun ei ymchwiliad i lygredd microblastigau yn afonydd Cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth am drafodaeth y Pwyllgor Deisebau am y ddeiseb ar gael ar wefan y Cynulliad yn:

 

http://www.senedd.cynulliad.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=22578&Opt=3

 

Gwyddoch hefyd am dair deiseb arall sy'n gysylltiedig â phlastig untro y mae'r Pwyllgor Deisebau yn eu trafod ar hyn o bryd. Efallai y bydd eich Pwyllgor hefyd am nodi'r canlynol mewn perthynas â'i ymchwiliad:

 

1       P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

2       P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

 

3       P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

 

 

Anfonwch e-bost at y tîm clercio yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

 

Yn gywir

 

 

 

David J Rowlands AC

Cadeirydd